Y Cadeirio a'r Orsedd yn hawlio sylw yn yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Pynciau Cysylltiedig
Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Y Cadeirio fydd prif seremoni'r dydd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ddydd Gwener.

Ond go brin y bydd unrhyw gyfeiriad at y pandemig yn un o'r awdlau gan fod y cyfansoddiadau wedi cyrraedd swyddfa'r brifwyl ym Mawrth 2020.

Cyn y cadeirio fe fydd degau yn cael eu derbyn i'r Orsedd, er anrhydedd - yn eu plith y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Ddechrau mis Gorffennaf fe gyhoeddodd Gorsedd Cymru ei fod yn cael ei urddo "ar ran holl weithwyr allweddol Cymru" a dywedodd Mr Drakeford ei bod yn "fraint anhygoel i dderbyn yr anrhydedd ar ran yr holl weithwyr allweddol".

"Fe wnaethon nhw gymaint i'n cynorthwyo ni gyd yn ystod y pandemig," meddai.

Ffynhonnell y llun, Amryw
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Robat Gruffudd, Elin Haf Gruffudd Jones ac Emyr Llewelyn ymhlith y rhai a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd yn Nhregaron ddydd Gwener

Mae'r Orsedd eisoes wedi cyhoeddi enwau'r bobl eraill fydd yn cael eu hanrhydeddu yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Cafodd y rhestr ei chyhoeddi yn haf 2020, ond oherwydd y pandemig, eleni yw'r cyfle cyntaf i'w hurddo.

Mae rhestrau llawn o'r anrhydeddau eleni wedi'u rhannu'n ddaearyddol yma:

Beirniaid cystadleuaeth y Gadair eleni yw Idris Reynolds, Emyr Lewis a Twm Morys.

Tasg y beirdd oedd llunio awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol ar y testun 'Traeth'.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,
Enillwyd Cadair Eisteddfod AmGen 2021 gan Gwenallt Llwyd Ifan - cadeirydd pwyllgor llenyddiaeth Eisteddfod Ceredigion 2022

Mae'r gadair wedi ei chynllunio gan Rees Thomas o Bow Street.

Yn gyn-athro gwaith coed yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth, dywedodd: "Cefais fy ysbrydoli gan batrymau llif yr Afon Teifi wrth iddi ymdroelli o fryniau Elenydd drwy'r sir ac i'r môr ger Aberteifi.

"Yn ogystal â chreu cadair sy'n cymryd ei lle ar lwyfan ein Prifwyl, ro'n i hefyd yn awyddus i greu dodrefnyn sy'n addas ar gyfer y cartref."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Mae'r gadair ei hun wedi'i chreu o dderw, ac meddai Rees wrth drafod y cynllun ar ei chefn: "Rydw i wedi benthyg y syniad o gynnwys y nod cyfrin ac enw Ceredigion yng Nghoelbren y Beirdd o Gylch yr Orsedd yng Nghastell Aberystwyth.

"Mae'r rhain wedi'u gwneud o bren derw'r gors o Gors Fochno ger Y Borth yng ngogledd y sir."

Mae'r barcud coch hefyd yn cael lle amlwg ar gefn y gadair, ac yn ôl Rees, mae'r ddelwedd yn seiliedig ar baentiad gan ei gyfaill, Wynne Melville Jones, un arall a fydd yn cael ei dderbyn i'r Orsedd ddydd Gwener.

"Ro'n i am ddathlu llwyddiant ysgubol yr ymgyrch i achub a datblygu'r rhywogaeth, yn arbennig yn yr ardal yng nghanolbarth y sir o amgylch Tregaron, a pherthnasedd yr ymgyrch gadwraeth honno o safbwynt ein brwydr ni heddiw i sicrhau dyfodol ein hiaith," meddai.

Noddir y gadair gan Gylch Cinio Dynion Aberystwyth a rhoddir y wobr ariannol gan deulu Eluned ac W Ambrose Bebb.

Yn ychwanegol i'r rhestrau rhanbarthol mae Ronan Hirrien o Lydaw a Begotxu Olaizola o Wlad y Basg yn derbyn y wisg werdd ddydd Gwener.

Pynciau Cysylltiedig